Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn

 

RC 35 Raglen Cwympiadau ac Iechyd Esgyrn (RhCIE) Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP)

 

 

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Ymchwiliad i Ofal Preswyl ar gyfer Pobl Hŷn

 

Swyddogaeth yr ymatebwr

Daw’r ymatebiad hwn gan Raglen Cwympiadau ac Iechyd Esgyrn (RhCIE) Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP), sy’n rhan o Raglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Caerdydd a’r Fro. Mae gweithgor sy’n cynnwys aelodau o’r sectorau statudol, Trydydd ac annibynnol yn cynghori'r RhCIE.

Mae'r RhCIE wedi gwneud cysylltiadau gyda darparwyr gofal drwy gyfarfodydd unigol ac mewn dau seminar i ddarganfod eu hanghenion a gofynion ar gyfer rhwystro a rheoli cwympiadau.  Un pryder mawr y sector annibynnol yw’r lefel amrywiol o gyfathrebiaeth gan y GIG.

 

Gwybodaeth Gefndirol – Cwympiadau ac Iechyd Esgyrn

 Er nad yw’n rhan anochel o heneiddio, fodd bynnag mae’r risg o gwympiadau a all achosi anafiadau’n cynyddu gydag oed a bregusrwydd. Mae'r pictiwr demograffig newidiol yn yrrwr gorfodol i leihau niwed yn dilyn cwympiadau a lleihau risgiau.   Ar hyn o bryd, amcangyfrif cost cwympiadau a thoriadau i iechyd a gofal cymdeithasol Caerdydd yw £10-12 miliwn y flwyddyn (gyda thorri cluniau'n rhan fawr o hyn). Mae cost dynol cwympiadau a thoriadau'n uchel iawn, sy’n cynnwys colli hyder ac annibyniaeth, a all arwain at unigedd cymdeithasol, iselder a derbyniadau i ofal preswyl.

 

 Mae rhwystro cwympiadau’n fater cymhleth ac mae bob preswylydd sy’n gallu symud o gwmpas mewn categori risg uchel o gwympiadau men gofal a lleoliadau sefydledig.    Y ffigwr a ddyfynnir yn aml ar gyfer risgiau mewn lleoliadau gofal yw 1.5 cwympiad i bob gwely'r flwyddyn. Ymysg yr heriau sy’n wynebu’r BIP, er enghraifft cydbwyso risgiau gyda phwysigrwydd hyrwyddol bywyd annibynnol i breswylydd/claf, a ddeallir yn dda gan y sector darparu gofal. 

 

Mynd i mewn i ofal preswyl

Mae cwympiadau’n ffactor cyffredin yn y penderfyniad i bobl fynd i mewn i gartrefi gofal.   Mae pobl sydd wedi cwympo yn cael budd o asesiad aml-ffactor, mewn sawl achos bydd hyn yn lleihau’r risgiau neu amlder cwympiadau'r dyfodol. Os yw cwympiadau’n rheswm dros benderfynu mynd i gartref gofal, mae’n bosibl na fydd adleoli ei hunan yn lleihau'r risg o gwympo.  

 

 Mae’r BIP yn rhyddhau nifer o gleifion i’r sector gofal preswyl sydd wedi cwympo (gan gynnwys yn dilyn derbyniadau’n ymwneud â chwympiadau yn y gymuned; yn dilyn cwymp mewn gofal preswyl neu gwymp claf mewnol).  Mae hyrwyddo’n bwysig i waith partneriaeth ac ymagwedd safonol at gwympiadau ac iechyd esgyrn ar draws y sectorau, gan fod y sectorau’n rhyng-ddibynnol ar y naill a'r llall.   Mae ymagwedd systemau cyfan yn hanfodol i wella profiad y claf. 

 

 

 

Gwasanaethau yn y Gymuned

 Yn Nhachwedd 2011, lansiodd y BIP ddau lwybr cwympiadau ac iechyd esgyrn newydd (i gyd-fynd â rhaglen "Lleihau niwed wedi cwymp" 1000 o Fywydau a Mwy).  Bydd unigolyn hŷn sy’n mynychu gofal na drefnwyd ymlaen llaw yn dilyn cwymp, o'r gymuned neu leoliad gofal, nad yw’n cael ei dderbyn, yn cael ei sgrinio ar gyfer risg cwympiadau parhaus. Bydd Gofal Cychwynnol yn cael gwybod y canlyniad ac yn ymgymryd ag asesiad, ymyriadau ac atgyfeiriadau pellach.   Disgwylir i’r risg o gwympiad arall leihau a hyrwyddiad annibyniaeth drwy’r ymyriadau.   Mae’r llwybr yn cynnwys taflen wirio diogelwch cartref gan Gofal a Thrwsio.   Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol gymunedol ar gyfer addasiadau cartref a’u gwasanaethau i sicrhau bydd unigolion yn gallu parhau yn eu cartrefu eu hunain am gyn hired â phosibl.

 

Bydd Timau Adnoddau Cymuned Caerdydd a’r Fro (CRT) yng Nghyfnod 2 (o'r gwanwyn 2012) yn cefnogi ail-alluogi ac osgoi derbyniadau (o ofal llym a gofal preswyl).   Mae rhagredegyddion y CRT (modelau megis Tîm Gofal Integredig Penarth neu Dîm Ardal Leol Dwyrain Caerdydd) wedi dangos osgoi derbyniadau a darpariaethau camu i fyny a chamu i lawr priodol.

 

Profiadau defnyddwyr gwasanaeth

Nid yw’r BIP wedi ymgymryd ag ymgynghoriad gyda defnyddwyr gwasanaeth gofal preswyl sy'n ymwneud â chwympiadau ac iechyd esgyrn; ond ymgymerwyd ag ymgynghoriad eang gyda phobl hŷn sy'n byw yn y gymuned er mwyn:

 

Ansawdd gwasanaethau

Asesiadau risg cwympiadau a chynlluniau gofal

Mae gofyniad statudol i ddarparwyr gofal ymgymryd ag asesiadau risg cwympiadau ac mae’n rhaid cofnodi a chofrestru bob cwymp.   Mae nifer o ddarparwyr gofal yn defnyddio offer “Stratify” a addaswyd – fodd bynnag mae astudiaethau wedi dangos fod yr offer hwn yn perfformio’n wael ac ni chefnogir ei ddefnydd bellach gan ei awdur.   Mae’r dystiolaeth orau’n awgrymu ymagwedd cynllunio gofal. Mae tyndra rhwng gofynion rheolaethol CSSIW o ran asesiad ac arferion yn seiliedig ar dystiolaeth.   Ni ymgymerir ag asesiadau risg iechyd esgyrn fel mater o drefn, ond gofynnir cwestiwn am osteoporosis. 

 

Cofrestrau Cwympiadau a ddefnyddir ar hyn o bryd

Mae cynnal cofrestr cwympiadau  yn ofyniad ar bob gweithredydd cartrefi gofal. Fodd bynnag, defnyddir amrywiol ffyrdd o gofrestru ac nid yw monitro tueddiadau'n fater o drefn; nid yw bob system yn rhwydd i'w harchwilio.   Bydd archwilydd CSSIW yn gofyn am ymatebion gwahanol yn dilyn cwymp.  Bydd rhai cartrefi yn adrodd ar bob cwymp gan ddefnyddio dogfen Rheolaeth 38, tra bydd eraill ond yn adrodd am gwympiadau sydd angen triniaeth ysbyty.  Bydd darparwyr gofal yn y cartref yn defnyddio dogfen Rheolaeth 26 ar gyfer anafiadau difrifol.

 

Mae gwelyau a chyfarpar yn broblem i ddarparwyr gofal, er enghraifft, yn aml bydd gwelyau mewn cartrefi gofal o’r math difan arferol, heb y cyfleuster i fynd yn isel iawn ar gyfer unigolyn sy’n debygol o syrthio. Mae argaeledd gwelyau isel iawn mewn cartrefi nyrsio’n amrywiol, yn yr un modd â gwarchodwyr cluniau.   

 

Hyfforddiant

Ymgynghorwyd â'r sector darparu gofal (nyrsio, preswyl a chartref) yn ystod datblygiad "Gweithdrefnau Rhwystro a Rheoli Cwympiadau”. Gwahoddwyd y sector i’r lansiad yn Ebrill 2011 ac anfonwyd copïau o’r ddogfen, ynghyd ag atodiadau defnyddiol i bob darparwr.  Cynhaliwyd seminar a werthuswyd yn llwyddiannus yn Nhachwedd 2010 gan y BIP ynghyd â chydlynwyr Datblygiad Gweithlu Gofal Cymdeithasol Caerdydd a Bro Morgannwg, gan ddarparu hyfforddiant ar y cyd ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol. Mae seminar pellach ar y gweill ar gyfer Chwefror 2012, gyda hyfforddiant yn seiliedig ar “National Audit of Falls and Bone Health Audit” Coleg Brenhinol y Ffisigwyr (mae'r archwiliad hwn yn cynnwys gwybodaeth gan weithredwyr sawl lleoliad gofal preswyl, ond yn canolbwyntio ar ddarparwyr gwasanaeth iechyd).  Bydd y seminar yn darparu hyfforddiant a arweinir gan yr Argymhellion Archwilio ac yn cynnwys materion megis pryd i alw gofal cychwynnol yn dilyn cwymp ac archwiliadau'n dilyn cwympiadau. 

 

 Mae’n werth nodi fod gofalwyr sy’n ymgymryd â hyfforddiant Cymhwyster Diploma’r Fframwaith Credyd (QCF), yn derbyn gwybodaeth am risgiau o safbwynt iechyd a diogelwch, ond nid risgiau cynhenid i unigolyn, e.e. dementia.

 

Modelau darparu gofal newydd a deilliannol

Mae Argymhellion Archwiliad RCP yn gofyn i gartrefi gofal fod â:

·         Data a gwybodaeth gywir ar gyfer cynllunio gwasanaeth

·         Adolygiad meddyginiaethau i'r holl breswylwyr

·         Mynediad at ymarfer corff

·         Darpariaeth hyfforddiant

 

Argymhellion

1.   Mae materion cymhleth rhwystro a rheoli cwympiadau a gwarchod iechyd esgyrn angen ymagwedd cydlynedig gydag iechyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r sector darparu gofal. Gall hyn gynnwys:

·         Gwella cyfathrebiadau rhwng y sectorau

·         Rhannu dogfennaeth gyda darparwyr gofal

·         Dysgu ar y cyd/profiadau hyfforddiant

 

2.      Bod argymhellion RCP yn cael eu gweithredu drwy:

·         Hyrwyddo defnydd o gofrestrau cwympiadau y gellir eu harchwilio’n rhwydd gan y darparwyr gofal

·         Hyrwyddo a chefnogi ymagwedd safonol i rwystro cwympiadau

·          Gwella data a gwybodaeth gywir am gwympiadau

·         Sicrhau fod systemau yn eu lle ar gyfer adolygiadau meddyginiaethau rheolaidd

·         Argaeledd ymarferion therapiwtig

·         Canolbwyntio ar rwystro derbyniadau yn dilyn cwympiad yn y gymuned ac yn y cartref

·         Digwyddiadau hyfforddiant ar rwysto cwympiadau; rheoli’n dilyn cwympiadau a materion gwarchod iechyd esgyrn

·         Adolygu cytundebau awdurdodau lleol ac iechyd

 

Amanda Ryan, Rheolwr Rhaglen Cwympiadau ac Iechyd Esgyrn

Denise Shanahan, Nyrs Ymgynghorydd ar gyfer Oedolion Hŷn Bregus

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Rhagfyr 2011